Sylwadau Prifysgol Aberystwyth (PA) ar y cynigion ar gyfer Horizon 2020

1 Cyflwyniad 

Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn croesawu at ei gilydd y cynigion ar gyfer cynigion Horizon 2020 gan eu bod yn cynnig cyfle ardderchog i symleiddio’r ‘cylch arloesi’ a chynyddu o ganlyniad ysbryd cystadlu Ewrop a Chymru.

Gan ei bod wedi’i lleoli mewn ardal gydgyfeirio, mae PA yn croesawu’r cynigion am eu bod yn cadw’r cyllid ymchwil ac arloesi ar wahân, ac yn cyd-fynd â pholisïau ac offerynnau cydlyniant yn ogystal.

2.0 Agweddau ar gynigion Horizon 2020 a allai fod yn gadarnhaol ac y mae PA yn argymell y dylid eu cadw

2.1 Mae cefnogaeth yr UE, yn arbennig i Marie Curie Actions a grantiau’r Ganolfan Ymchwil Ewropeaidd, yn debyg o barhau yn Horizon 2020. Mae’r rhain o gymorth wrth ddenu ymchwilwyr rhagorol o bob rhan o’r byd i Gymru, gan greu swyddi hyfedr newydd, a chynhyrchu gwaith ymchwil y gellir ei ddefnyddio i greu cyfoeth. Croesewir y cynnydd arfaethedig o 77% yn y gyllideb i gefnogi’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd.

2.2 Mae PA yn elwa mewn sawl ffordd o’r ymwneud â’r prosiectau Cydweithredu FP7 yn arbennig, gan gynnwys codi proffil y sefydliad fel sefydliad ymchwil o safon fyd-eang, galluogi cymheiriaid ymchwil o Ewrop a thu hwnt i wynebu ar y cyd yr heriau cymdeithasol mawr hynny sydd y tu hwnt i gwmpas Aelod-Wladwriaethau, cenhedloedd a rhanbarthau unigol. Bydd hyn yn debygol o barhau yn Horizon 2020. Croesewir symudiad tuag at weithio mwy amlddisgyblaethol wrth fynd i’r afael â heriau mawr, gan fod hynny yn galluogi dewis tîmau cydweithredol o wahanol adrannau’r Brifysgol. O dan Horizon 2020, mae’n debyg y manteisir yn fwy eto ar feithrin adnoddau gallu fel a wneir drwy bartneriaeth Aberystwyth/Bangor.                                          

2.3 Mae PA yn cefnogi ymroddiad Horizon 2020 i ddefnyddio rhagoriaeth fel y prif faen prawf ar gyfer pennu derbyn arian ymchwil yn Ewrop.

2.4 Mae PA hefyd yn croesawu’r ymroddiad i gynyddu cyllid ar gyfer 80 biliwn, ac yn galw ar Gomisiwn a Senedd Ewrop i gefnogi’r ffigwr hwn fel lleiafswm cyllido Horizon 2020.             

2.5 Mae PA yn cefnogi’r mesurau arfaethedig i ad-dalu hyd at 100% o gostau uniongyrchol cymwys. Er bod y cynnig ar gyfer un gyfradd safonol o 20% ar gyfer ad-dalu costau anuniongyrchol wedi derbyn ymateb cymysg, ceir consensws cyffredin ledled y sefydliad y dylid ystyried cyfradd ad-dalu uwch ar gyfer costau anuniongyrchol.

2.5 Mae PA yn cefnogi datblygiad rhaniad gwaith mwy eglur rhwng Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol. Er hynny, mae llawer o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y Cronfeydd Strwythurol yn cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil ac arloesi, ac er mwyn egluro a hwyluso’r synergedd rhwng Horizon 2020 a’r Cronfeydd Strwythurol.

2.6 Byddai PA yn croesawu cydgysylltu rhwng y Comisiwn a hapddalwyr er mwyn manylu ynghylch sut y rheolir yr heriau cymdeithasol, a sut olwg fydd arnynt o ran y rhaglen waith.

2.7 Byddai PA yn annog Comisiwn a Senedd Ewrop i sicrhau bod yr ysgogiad i gynnwys ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn strwythurol yn Horizon 2020 yn cael ei gynnwys wrth weithredu’r rhaglen.

2.8 Mae PA yn cefnogi tri amcan canolog y rhaglen sydd wedi’u hadnabod er mwyn rhoi sail gadarn i Horizon 2020, ac yn ystyried bod cydbwysedd cymharol y cyllidebau ariannu arfaethedig yn briodol ar y cyfan.

 

3.0 Agweddau ar y cynigion ar gyfer Horizon 2020 y mae PA yn argymell y dylid eu hystyried ymhellach

3.1 Mae PA yn siomedig ynglŷn â’r cynlluniau i ddiddymu’r dewis i sefydliadau ddefnyddio methodoleg brisio economaidd gyflawn i hawlio costau real. Mae’r Brifysgol yn annog y Comisiwn yn gryf i ddatblygu trefn dystysgrifo haws ar gyfer datgan costau anuniongyrchol real, ac i’w chynnwys yn Horizon 2020 fel dewis ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n dewis ei defnyddio.

 

3.2 Gall dewisiadau cyfradd safonol a chyfandaliadau fod yn ddefnyddiol mewn amgylchiadau arbennig ond dylid eu cadw yn ddewisol.

 

3.3 Mae PA yn croesawu’r ymroddiad parhaus i Marie Curie Actions (MCA). Er hynny, ceir pryder sylweddol y byddai’r cynigion cyfredol yn arwain at leihad yn y gyllideb, mewn termau real. Mae PA yn galw ar y Comisiwn i gynyddu’r canran o’r gyllideb a neilltuir i brosiectau blaenllaw MCA, ac i osgoi gwanhau prosiectau blaenllaw MCA o blaid y Cynllun Cofund sy’n gofyn am lefelau uchel o arian cyfatebol.

3.4 Ar sail yr hyn sydd yn y cynnig, mae’r maes ‘Cymdeithasau Cynhwysol, Arloesol a Diogel’ yn ddiffygiol o ran cydlyniant. Byddai PA yn croesawu mwy o eglurder ynghylch sut y byddai’r her yma yn gweithredu. Mae’n bwysig yn ogystal nad yw’n gweithredu fel ystorfa  ar gyfer meysydd nad ydynt yn perthyn i rannau eraill o’r strwythur, megis y fframwaith Cydweithrediad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ewrop rhynglywodraethol.

3.5 Mae hi’n bwysig i gael cyfiawnhad eglur dros y cynnydd ddengwaith cymaint i gyllido gweithgareddau Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop (EIT) a gynigir o dan Horizon 2020. Mae PA hefyd yn cefnogi’n gryf gynlluniau i symleiddio strwythurau gweinyddu a llywodraethu’r Sefydliad hwn.

3.6 Mae PA yn cefnogi’r dyheadau i fabwysiadu dull mwy uniongyrchol o gydweithredu â gwledydd y tu allan i’r UE. Ceir, er hynny, ddiffyg eglurder ynghylch cynlluniau newydd ar gyfer cydweithredu yn rhyngwladol. Mae PA yn galw ar y Comisiwn i ddatblygu mecanwaith tryloyw ar gyfer trawsnewid amcanion polisi ar lefel uchel yn gyfleoedd cadarn a thryloyw, ac i gadarnhau sut y datblygir atebion newydd o dan Horizon 2020.

3.7 Mae’n arwyddocaol sylweddoli bod diwydiannau mawrion, na cheir fawr ohonynt yng Nghymru ar gyfartaledd, yn debygol o elwa llawer mwy yn y dyfodol yn ôl y cynigion. Gan fod twf economaidd a chynnydd yn y nifer mewn gwaith yn cael eu cyflawni orau pan anelir cymorth at Fusnesau Bychain a Chanolig, byddai PA yn croesawu ailwerthuso strwythurau a gynigir ar gyfer Horizon 2020 er mwyn sicrhau bod Busnesau Bychain a Chanolig yn cadw’r amrywiol fanteision sydd ganddynt dros gwmnïoedd mwy ar hyn o bryd o dan FP7.

 

3.8 Wrth edrych ymlaen at y trafodaethau sy’n berthnasol i reoli Horizon 2020, mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn debygol o groesawu, o ran tryloywder ac atebolrwydd, ddatblygiad pwyllgor ar y lefel uchaf a fydd yn goruchwylio’r rhaglen yn strategol, ac yn awgrymu y gellid modelu hyn ar linellau tebyg i grŵp rheoli Cyngor Ymchwil Ewrop sy’n llwyddo i gymryd i ystyriaeth ddiddordebau cynrychiolwyr aelod-wladwriaethau a grwpiau ymchwil. Pe bai modd ystyried pwyllgor o’r fath yn bosibl ac yn ymarferol, byddai PA yn croesawu ailarchwilio cylch gorchwyl grwpiau eraill sy’n gwneud penderfyniadau gyda golwg ar gadarnhau atebolrwydd a gwneud penderfyniadau a lleihau’r perygl o ddyblygu.

 

3.9 O ran y mater o reoli’r rhaglen yn y dyfodol, cafodd PA brofiadau da gyda gweinyddwyr rhaglen ar gontract allanol, megis yr Asiantaeth Ymchwil Weithredol, a byddai’n croesawu rhyw gymaint ar roi gwaith pellach ar gontract i gwmnïoedd sy’n darparu gwasanaeth cymhwysol yn gyson ar draws holl wladwriaethau’r UE. Mae PA yn gwerthfawrogi’n arbennig gyswllt uniongyrchol ag aelodau staff y Comisiwn. Byddai PA yn erbyn cyflwyno gweinyddu rhaglen yn genedlaethol neu yn rhanbarthol, gan ofni y byddai hyn yn arwain at ormod o anghysonderau wrth ddehongli canllawiau, ac yn rhoi canran sylweddol o ranbarthau dan anfantais o’r herwydd. Mae’r cyswllt uniongyrchol sy’n bodoli rhwng deiliaid grantiau PA (a Sefydliadau Addysg Uwch eraill) a’r Comisiwn Ewropeaidd ar brosiectau FP7 yn cael ei werthfawrogi a dylid ei gadw o dan Horizon 2020.